Caersalem newydd, dinas Ner, Bar'tow'd i'r saint tu draw i'r ser; Adeilad pur o aur digoll, Fel gwydr gloew'n ddysglaer oll. Ei theg rodfeydd a'i ph'lasau fry, A'i thyrau cryf yn hyfryd sy; Pob rhan o honi cyflawn yw O sanctaidd bresenoldeb Duw. Ei huchel furiau wnawd i gyd O feini iaspis hardd a drud; Ei phyrth o berl, ryfedd waith! Aur yn palmento ei h'olydd maith. 'Does iddi deml o un rhyw, Can's Duw a'r Oen ei theml yw; O'i mewn y saint yn eglur sydd Yn gwel'd ei wyneb nos a dydd. Na haul, na lloer, na ser, nis cawn, Gogoniant Duw sydd ynddi'n llawn; Yr Oen fu â'i waed yn lli i'r llawr, Sydd yn dysgleirio'r ddinas fawr.William Williams 1717-91 [Mesur: MH 8888] gwelir: Cod f'enaid gwan yn fuan gwêl |
New Jerusalem, the city of the Lord, Prepared for the saints beyond the stars; A pure building of unfailing gold, Like shining glass all radiant. Her fair avenues and her palaces above, With her strong towers is delightful; Every part of her is righteous From the holy presence of God. Her high walls are all made Of beautiful and costly jasper stones; Her gates of pearl, wonderful work! Gold paving her vast streets. There is no temple of any kind in her, Since God and the Lamb are her temple; Within her the saints are clearly Seeing his face night and day. Neither sun, nor moon, nor stars shall we have, The glory of God is in her fully; The Lamb whose blood flooded to the ground, Is illuminating the big city.tr. 2017 Richard B Gillion |
|